logo fha  
Family Housing
ASSOCIATION (WALES) LTD
 
01792 460192
spacer
Atgyweiriadau a Gwelliannau
Gwneud Cais am Dy
Ardal i Staff
Ardal i Gontractwyr

Lawrlwythwch adobe reader
spacer
main fha header graphic

Hafan > Tai â Chymorth

Tai â Chymorth

Mae ein staff yn darparu cymorth un-i-un sy’n ymwneud â thai, i helpu ein tenantiaid i fyw mor annibynnol ag sy’n bosib.

Mae’r Math o Gymorth a Ddarperir yn cynnwys:-

  • Cyngor ar Hawliau Lles
  • Cyllido
  • Rheoli cartref
  • Byw yn iach
  • Mynd o un lle i’r llall
  • Cymorth gyda chymryd meddyginiaeth
  • Cysylltu â gwasanaethau eraill
  • Gwneud Cais am Dy

Prosiect WISH

Rydyn ni’n darparu tai â chymorth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae’r rhain yn cynnwys llety sy’n debyg i hostel, sy’n cael ei staffio 24 awr o’r dydd, llety i fenywod yn unig, tai a rennir a fflatiau hunangynhaliol.

Mae’r gwasanaeth yma wedi’i gofrestru, ac yn cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Prosiect Tai â Chymorth Sir Gaerfyrddin

Rydyn ni’n darparu tai â chymorth i bobl sengl a fyddai â phroblemau fel arall mewn rheoli cartref. Mae’r prosiect yn cynnwys pedwar fflat hunangynhaliol yn Llanelli a Rhydaman.

Prosiectau cymorth fel y Bo’r Angen Sir Gaerfyrddin & Abertawe.

Rydyn ni’n darparu cymorth i denantiaid Cymdeithas Tai Teulu yn Abertawe a Sir Gaerfyrddin sy’n cael problemau o ran rheoli eu cartref.

Mae Adran Prosiectau Arbennig Cymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyf yn datblygu a’n rheoli cynlluniau i ystod eang o bobl fregus sydd angen gofal a chymorth.

Gallai’r gofal a chymorth sy’n cael ei ddarparu amrywio o’r cymorth 24 awr a roddir mewn prosiectau a ddyluniwyd yn arbennig, i ymweliadau cymorth i rywun sy’n gallu byw yn annibynnol gyda chymorth.

Yn ogystal, mae’r adran Prosiectau Arbennig yn rheoli llety arbennig i bobl hyn.Mae’r gwasanaeth yma wedi’i gofrestru, ac yn cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Tai â Chymorth – Canllaw i Wasanaethau

 

(Mae angen Acrobat Reader.)


spacer