logo fha  
Family Housing
ASSOCIATION (WALES) LTD
 
01792 460192
spacer
Atgyweiriadau a Gwelliannau
Gwneud Cais am Dy
Ardal i Staff
Ardal i Gontractwyr

Lawrlwythwch adobe reader
spacer
main fha header graphic

Hafan > Gwasanethau Tai > Atgywerio Eich catref > Pwy Sy'n Gyfrifol

Pwy sy’n gyfrifol am atgyweiriadau?

Addurniad Mewnol

Mae angen i chi gadw’r eiddo mewn cyflwr da a glân, ac addurno’r ardal fewnol gyfan mor aml ag sydd angen, er mwyn ei chadw mewn trefn addurniadol da.

Difrod

Y chi ddylai drwsio unrhyw ddifrod a achoswyd yn fwriadol, drwy esgeulustod neu drwy flerwch, unai gennych chi, gan unrhyw aelod o’ch cartref neu gan unrhyw ymwelwyr, sy’n cynnwys rhoi gwydr newydd mewn ffenestri ac atgyweirio neu osod unrhyw ffitiadau a gosodiadau. Os nad ydych chi’n atgyweirio unrhyw ddifrod yr ydych chi’n gyfrifol amdano, efallai y byddwn ni’n mynd i mewn i’r eiddo i gynnal y gwaith, ac adhawlio’r gost gennych chi.

Symud Allan

Os ydych chi’n symud allan, mae rhaid i chi adael yr eiddo a’r holl ddarnau gosod a gosodiadau y gellir eu rhoi ar osod mewn cyflwr da, heb sbwriel. Os ydych chi’n atebol am unrhyw rai o’r atgyweiriadau isod, efallai y byddwn ni’n cynnal y gwaith a’n adhawlio’r gost gennych chi.

Gyfrifol Amdanynt

  • Darparu allweddi drysau mewnol ac allanol newydd .
  • Gosod handlenni drws, cliciedau, blychau llythyron a chnocwyr drws newydd os byddan nhw wedi cael eu difrodi.
  • Gosod gridiau gylïau newydd, a phlygiau yn y sinciau, y baddonau a’r basnau golchi dwylo
  • Glanhau sinciau, baddonau, basin golchi dwylo a thoiled, peipiau basnau ymolchi.
  • Gosod ffiwsys trydanol newydd, ar wahân i’r rhain hynny sydd yn y Prif Focs ffiws sydd yn berchen i’r Bwrdd Trydanol.
  • Darparu ffitiadau trydanol, plygiau a bylbiau golau newydd.
  • Gwneud i ddrysau mewnol agor a chau yn fwy llyfn dros garpedi, a darparu carnau codi ar gyfer y drysau
  • Llenwi craciau lleihad yn y waliau a’r toeau
  • Erialau teledu neu radio sy’n cael eu darparu gan y tenant, ac atgyweirio’r difrod a achoswyd wrth eu gosod neu eu tynnu i lawr, heblaw am pan fo erial cymunedol wedi cael ei ddarparu gan y Gymdeithas.
  • Difrod i loriau a theils llawr.
  • Trwsio neu osod llinellau dillad newydd, gan gynnwys pyst, pan eu bod yn cael eu darparu’n gyfan gwbl gan un ty.
  • Atgyweirio neu gael biniau neu ddalwyr biniau newydd.
  • Batris ar gyfer canfodyddion/larymau mwg domestig sy’n cael eu pweru gan y prif gyflenwad neu gan fatri.
  • Codi/symud dysglau lloeren, a thacluso ar ôl y gwaith.

Llawlyfr i Denantiaid Cymdeithas Tai Teulu
spacer