Family Housing Association (Wales) Ltd

Polisi Cynnwys y We

Drwy gael mynediad i’n gwefan a’i defnyddio, rydych chi’n cytuno i fod yn rhwym i’n hamodau a amlinellir isod.  A fyddech gystal â bod yn ymwybodol y gallai’r amodau hyn newid o dro i dro a bod newidiadau o’r fath yn effeithiol ar unwaith.  A fyddech gystal â gwirio am unrhyw newidiadau bob tro rydych chi’n edrych ar ein gwefan.

 

Amddiffyn Data

Fe fydd Cymdeithas Tai Teulu (Cyf) yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaethau o ran Amddiffyn Data sydd mewn grym yn Lloegr ac yng Nghymru.  Fe fydd unrhyw wybodaeth sy’n cael ei gadw gennym ni yn cael ei reoli mewn dull moesegol ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ein defnydd mewnol ni yn unig.  Os ydych chi’n dewis rhoi gwybodaeth amdanoch chi inni, yna gallwn ni ddefnyddio’r wybodaeth yma i gysylltu â chi drwy ddulliau fel post neu e-bost, neu efallai, o dro i dro, fe fyddwn ni’n anfon rhagor o wybodaeth atoch chi a allai fod yn berthnasol i chi. Os nad ydych chi eisiau i ni ddefnyddio eich gwybodaeth yn y ffordd hon, ysgrifennwch atom ni.

Gallwch chi ofyn am gopi o unrhyw ddata a gwybodaeth bersonol sy’n cael ei gadw gennym ni, cyn belled a bo cais o’r fath yn cael ei wneud ar bapur.  Os ydych chi o’r farn fod unrhyw wybodaeth bersonol yr ydym yn cadw amdanoch chi un’ ai yn anghyflawn neu’n anghywir, cysylltwch â ni fel ein bod ni’n gallu cywiro unrhyw ddata o’r fath.

 

Gwybodaeth Gyfrinachol

Nid yw’r rhyngrwyd yn gyfrwng diogel, ac ni allwn ni fod yn gyfrifol am ddiogelu eich preifatrwydd.  Os ydych chi’n dewis rhoi gwybodaeth i ni drwy’r rhyngrwyd, efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi drwy’r un cyfrwng. Ni fedrwn ni dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw niwed neu ddifrod a grëwyd o ganlyniad i’r ffaith i chi anfon gwybodaeth bersonol atom ni drwy’r rhyngrwyd, neu os ydyn ni’n anfon gwybodaeth o’r fath yn yr un ffordd, ar ofyn gennych chi.