| Hafan
>
Gwasanaethau Pobl Hyn
Gwasanaethau Pobl Hyn
Mae Cymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyf yn cynnig ystod o lety
a gwasanaethau i bobl 55 mlwydd oed neu hyn.
Nod y gwasanaeth yw cynnig amgylchedd diogel i denantiaid
i fyw ynddo, a rhoi help, cyngor a chymorth i alluogi tenantiaid
i fyw mor annibynnol â phosib.
Llety i Bobl Hyn
Cynlluniau â Staff
Mae Drovers Court wedi’i leoli yn Nhre-gwyr yn Abertawe,
ac mae’n agos i amwynderau lleol ac i gysylltiadau
trafnidiaeth dda i ganol dinas Abertawe a’r ardaloedd
oddi amgylch.
Mae’r cynllun yn cynnig 20 llety un ystafell a 5
llety dwy ystafell, lolfa gymunedol a chegin, gwres o dan
y llawr, technoleg gynorthwyol sy’n cynnwys gwasanaeth
Llinell Bywyd, a lle i gadw sgwter symudedd.
Mae Gweithiwr Cymorth i Denantiaid ar ddyletswydd 20 awr
o’r wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener, i roi cymorth,
cyngor a chefnogaeth i denantiaid pan fo angen.
I wneud cais am lety yn Drovers Court cysyltlwch â’r
Tîm Eiddo a Osodir ar 01792 482702
Mae Francis Court wedi’i leoli yn Rhos, Pontardawe,
ac mae’n agos i amwynderau lleol ac i gysylltiadau
trafnidiaeth dda i Gastell-nedd, Pontardawe ac Abertawe.
Mae’r cynllun yn cynnig 32 llety un ystafell, neuadd
gymunedol gyda chegin, cyfleusterau golchi dillad, llety
i westeion a gwasanaeth Llinell Bywyd.
Mae Gweithiwr Cymorth i Denantiaid ar ddyletswydd 35 awr
o’r wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener, i roi cymorth,
cyngor a chefnogaeth i denantiaid pan fo angen.
I wneud cais am lety yn Francis Court , cysylltwch â’r
Tîm Eiddo a Osodir ar 01792 482702
Mae Llys Ael y Bryn wedi’i leoli ym Mhenllergaer,
Abertawe, ac mae ar brif lwybr bws sy’n gwasanaethu
canol dinas Abertawe a’r ardaloedd o’i hamgylch.
Mae’r cynllun yn cynnig 15 llety un ystafell ac 16
llety dwy ystafell, lolfa gymunedol gyda chegin, ystafell
golchi dillad, ystafell gwneud gwallt, llety i westeion
a gwasanaeth Llinell Bywyd.Mae Gweithiwr Cymorth i Denantiaid
ar ddyletswydd 25 awr o’r wythnos o ddydd Llun i ddydd
Gwener, i roi cymorth, cyngor a chefnogaeth i denantiaid
pan fo angen.
I wneud cais am lety yn Llys Ael y Bryn cysylltwch â’r
Tîm Eiddo a Osodir ar 01792 482702
Mae Philadelphia Court wedi’i leoli yn Nhreforys,
Abertawe, ac mae’n agos i amwynderau lleol ac i gysylltiadau
trafnidiaeth i ganol dinas Abertawe, Castell-nedd a’r
ardaloedd o’i amgylch.
Mae’r cynllun yn cynnig 25 llety un ystafell a 2
llety dwy ystafell. Mae gan bob llety fynediad i wasanaeth
Llinell Bywyd.
Mae Gweithiwr Cymorth i Denantiaid ar ddyletswydd 20 awr
o’r wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener, i roi cymorth,
cyngor a chefnogaeth i denantiaid pan fo angen.
I wneud cais am lety yn Philadelphia Court cysylltwch â’r
Tîm Eiddo a Osodir ar 01792 482702
Mae Princess of Wales Court wedi’i leoli ym Monymaen,
Abertawe, ac mae’n agos i amwynderau lleol ac i gysylltiadau
trafnidiaeth i ganol dinas Abertawe, a’r ardaloedd
o’i hamgylch.Mae’r cynllun yn cynnig 74 llety
un ystafell, neuadd gymunedol gyd chegin, cyfleusterau golchi
dillad, llety i westeion a gwasanaeth Llinell Bywyd.
Mae 2 Gweithiwr Cymorth i Denantiaid ar gael, sydd rhyngddynt,
ar ddyletswydd 48 awr o’r wythnos o ddydd Llun i ddydd
Gwener, i roi cymorth, cyngor a chefnogaeth i denantiaid
pan fo angen.
I wneud cais am lety yn Princess of Wales Court cysylltwch
â’r Tîm Eiddo a Osodir ar 01792 482702
Mae Swan Gardens, sef cynllun i Bobl Hyn Tsieinëeg,
wedi’i leoli ar St Helen’s Road yng nghanol
Abertawe, ac mae’n agos i amwynderau ac i gysylltiadau
trafnidiaeth.
Mae’r cynllun yn cynnig 24 llety un ystafell a 7
llety dwy ystafell, lolfa gymunedol gyda chegin, ystafell
adnoddau, ystafell weithgareddau, cyfleusterau golchi dillad,
llety i westeion a gwasanaeth Llinell Bywyd.Mae 2 Gweithiwr
Cymorth i Denantiaid llawn amser (35 awr yr wythnos) ar
ddyletswydd o ddydd Llun i ddydd Gwener i roi cymorth, cyngor
a chefnogaeth i denantiaid pan fo angen.
I wneud cais am lety yn Swan Gardens cysylltwch â’r
Tîm Eiddo a Osodir ar 01792 482702
Mae Traherne Court wedi’i leoli yn Abaty Castell-nedd,
ac mae’n agos i amwynderau lleol ac i gysylltiadau
trafnidiaeth i Gastell-nedd, Abertawe a’r ardaloedd
o’i hamgylch.
Mae’r cynllun yn cynnig 41 llety un ystafell, neuadd
gymunedol gyda chegin, cyfleusterau golchi dillad, llety
i westeion a gwasanaeth Llinell Bywyd.
Mae Gweithiwr Cymorth i Denantiaid ar ddyletswydd 35 awr
o’r wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener, i roi cymorth,
cyngor a chefnogaeth i denantiaid pan fo angen.
I wneud cais am lety yn Traherne Court cysylltwch â’r
Tîm Eiddo a Osodir ar 01792 482702.
Cynlluniau Heb Staff
|