|
Hafan > Cyfleoedd
am Swyddi > Gweithio o'r Brif
Swyddfa
Gweithio o’r Brif Swyddfa
Gweinyddwr Tai - yn cynnal yr holl ddata
sydd ar gyfrifiadur ar denantiaid neu denantiaid posib, yn
anfon llythyrau, a’n delio gyda chwsmeriaid ar y ddesg
flaen.
Swyddog Tai - yn delio gyda phroblemau gyda
thenantiaeth fel cymdogion sy’n creu niwsans, ôl-ddyledion
rhent. Weithiau’n gorfod ymddangos yn y llys. Mae angen
cael cerbyd i fynd ar ymweliadau.
Swyddog Cynnal a Chadw/ / Syrfëwr -
yn edrych ar eiddo i asesu’r cyflwr atgyweirio a’n
gweithio’n agos gyda Chontractwyr.
Clerc Atgyweiriadau - yn gweinyddu a’n
archebu’r atgyweiriadau dyddiol sy’n dod i mewn
gan denantiaid dros y ffôn neu mewn person
Swyddog Datblygu - yn darganfod, yn trafod
a’n prynu tir sy’n addas i ni adeiladu tai arnynt.
Gweinyddydd - yn cynhyrchu cyfatebiaeth,
cylchlythyron, cyflwyniadau, yn cynnal systemau ffeilio a
chronfeydd data a’n trefnu cyfarfodydd.
Yma ac Acw
Cydlynydd Gwasanaethau Ystadau - rhan o
dîm cynnal a chadw'r tiroedd sy’n gwneud gwaith
tirlunio/garddio drwy gydol ein heiddo, ac sy’n gofalu
ar ôl yr ardaloedd cymunedol. O bosib yn byw ar rhai
safleoedd mewn rhai ardaloedd.
Gweithiwr Cymorth i Denantiaid - yn helpu
tenantiaid sy’n dioddef o salwch iechyd meddyliol neu
broblemau eraill gyda chymorth dydd i ddydd e.e. cynorthwyo
gyda chyllido, mynychu cyfarfodydd gydag asiantaethau, helpu
i goginio a glanhau. Yn gweithio fesul sifftiau. Mae angen
cerbyd.
Gweithiwr Cymorth i Denantiaid (Pobl Hyn)
– yn rhoi cymorth i denantiaid hyn i gael mynediad i
asiantaethau i helpu gyda phethau fel budd-daliadau, ac yn
helpu gyda materion sy’n ymwneud â thenantiaeth.
Gofalwyr Ty – ymgymryd â dyletswyddau
glanhau pob dydd a chael hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch
sylfaenol.
|