logo fha  
Family Housing
ASSOCIATION (WALES) LTD
 
01792 460192
spacer
Atgyweiriadau a Gwelliannau
Gwneud Cais am Dy
Ardal i Staff
Ardal i Gontractwyr

Lawrlwythwch adobe reader
spacer
main fha header graphic

Hafan > Gwasanaethau Tai

Gwasanaethau Tai

Yn fan hyn, byddwch chi’n gallu darganfod sut i dalu eich rhent, sôn am rywbeth sydd angen cael ei atgyweirio ac am agweddau eraill o fod yn denant.

Fe fyddwch chi’n cael gwybodaeth fwy manwl yn ein Llawlyfr i Denantiaid a roddwyd i chi pan ddaethoch chi’n denant gyntaf. Cliciwch yma i lawrlwytho’r fersiwn diweddaraf o’r llawlyfr i denantiaid.

  • Sut i dalu eich rhent
    Manylion o sut ac ymhle fedrwch chi dalu eich rhent, a chyngor os ydych chi angen.
  • Atgyweirio eich cartref
    Os ydych chi angen atgyweirio rhywbeth, fe fyddwn ni’n dweud wrthych chi p ‘un ai eich cyfrifoldeb chi neu’n un ni yw ef, a sut gallwch chi sôn wrthym ni am hyn.
  • Trosglwyddiadau, cyfnewidiadau a phrynu eich cartref
    Efallai y bydd yn rhaid i chi symud ty, neu fod eich amgylchiadau’n newid. Yma, rydym ni’n sôn am yr opsiynau sydd ar gael i chi.
  • Symud Allan
    Os ydych chi’n ein gadael ni, rydyn ni’n rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi wneud.
  • Chi a’ch cymdogion
    Most of us want to live peacefully in our homes. If your neighbours are not allowing you to do this here we tell you what you can do about it and how we can help.
  • Lleisio’ch barn
    Sut fedrwch chi leisio’ch barn am y ffordd mae Cymdeithas Tai Teulu’n cael ei reoli.
  • Gwneud cwyn
    Efallai na fyddwn ni’n gwneud popeth yn gywir bob amser ac yma, rydyn ni’n sôn wrthych chi sut gallwch chi roi gwybod i ni, a beth fyddwn ni’n wneud.

Rhanberchenogaeth - Castle Housing

Fe hoffai lawer o bobl fod yn berchen ar gartref eu hunain, ond nid yw’n bosib oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio morgais llawn am sawl rheswm, er enghraifft incwm isel neu dim digon o arian wrth gefn.

Nid pwrpas Rhanberchenogaeth yw rhannu llety gyda rhywun arall, ond yn hytrach, cynllun ydyw sy’n galluogi pobl sydd ddim yn gallu fforddio prynu ty ar eu pen eu hunain ar hyn o bryd, i gael eu troed ar yr ysgol eiddo.

Mae’r Tenantiaeth Rhanberchenogaeth Ohiriedig yn rhoi’r hawl i chi brynu cyfran ychwanegol unrhyw bryd, naill ai ar unwaith neu fesul cam am bris y farchnad, fel y gallech chi yn y pen draw fod yn berchen ar eich cartref eich hun yn llwyr pan allwch chi fforddio i wneud hynny. Wrth i’ch cyfran yn yr eiddo gynyddu, mae’r rhent y mae’n rhaid i chi ei dalu yn gostwng ar raddfa gyfatebol - gelwir hyn yn "gamau graddol".

O dan Ranberchenogaeth, mae’n bwysig nodi mai chi yw perchen a meddiannydd cyfreithiol eich cartref.

Isod, gweler yr ardaloedd penodol ble mae ein heiddo sy’n rhan o’r cynllun Rhanberchenogaeth wedi’u lleoli:

  • Treforys, Abertawe
  • Llangennith, Gwyr
  • Llwynhendy, Llanelli
  • Pemberton, Llanelli
  • Glanaman, Rhydaman
  • Ffairfach, Llandeilo

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’n swyddfeydd drwy ffonio 01792 482702 a gofynnwch a gewch chi siarad gyda chynghorydd neu fel arall, ysgrifennwch at y cyfeiriad isod:

Cymdeithas Tai Teulu (Cymru)
Cyf 43 Walter Road
Abertawe
SA1 5PN

Llawlyfr i Denantiaid Cymdeithas Tai Teulu
spacer