|
Hafan > Gwasanaethau
Tai > Atgywerio eich Catref
Atgyweirio Eich Cartref
Mae’n bwysig eich bod chi’n gofalu am eich cartref
a’n rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosib os ydych
chi angen atgyweirio unrhyw nam. Er bod gennych chi fel tenant,
rhywfaint o gyfrifoldebau o ran cynnal a chadw, y ni fydd
yn cynnal y rhan fwyaf o’r gwaith cynnal a chadw drosoch
chi.
Sut i sôn os ydych chi eisiau atgyweirio rhywbeth
Gallwch chi unai ein ffonio ni am ddim ar 0800 435223
yna PWYSO 1 ar fysellfwrdd eich ffôn,
neu gallwch chi:
- Ymweld â’n swyddfeydd yn 43 Walter Road unrhyw
bryd rhwng 9.00 y.b. a 5.00 y.h. Llun i Wener
- Sôn wrth Staff Cymorth neu’r Swyddog Ystadau
- Sôn wrth aelod o staff
- Anfon ffacs at 01792 600290
- Ysgrifennu atom ni yn 43 Walter Road, Abertawe, SA1 5PN
- Anfon e-bost at repairs@fha-wales.com
- I sôn am atgyweiriad argyfwng tu allan i’r
oriau swyddfa, ffoniwch 0800 435226
Os ydych chi’n byw mewn llety â chymorth, fe
fydd eich Staff Cymorth yn rhoi’r wybodaeth uchod i
chi, a’n ateb unrhyw ymholiadau pellach sydd gennych
chi o bosib, fel rhan o’ch cymorth.
Sut i ymholi am atgyweiriad a adroddwyd
I ymholi ynghylch gwaith atgyweirio sydd wedi cael ei grybwyll gennych o’r blaen, cysylltwch â ni am ddim drwy ffonio 0800 435 223 yna PWYSWCH 2 ar fysellfwrdd eich ffôn.
I drafod atgyweiriad sydd eisoes yn bodoli, byddwch angen enw’r contractwr fydd yn gwneud y gwaith. Bydd enw’r person ar y ffurflen atgyweirio a anfonwyd atoch.
- Atgyweiriadau gwres a phlympio Westward a phob ymholiad ynghylch gwasanaethu’r system nwy: Pwyswch 1 ar fysellfwrdd eich ffôn.
- Atgyweiriadau adeilad gydag AS Wellington: Pwyswch 2 ar fysellfwrdd eich ffôn.
- Atgyweiriadau trydanol gydag AMCO: Pwyswch 3 ar fysellfwrdd eich ffôn.
- Unrhyw atgyweiriad neu ymholiad arall: Pwyswch 4 ar fysellfwrdd eich ffôn.
Atgyweiriadau mewn cartref newydd
Os ydych chi mewn cartref sydd newydd gael ei adeiladu neu
ei ailaddurno’n llawn, mae’r trefniadau ar gyfer
atgyweiriadau’n wahanol.
Yn y 12 mis cyntaf, fe fyddwn ni’n pasio problemau
o ran atgyweirio ymlaen i’r contractwr adeiladu.
Fe fyddan nhw’n gwneud yr atgyweiriadau sydd eu hangen,
ac yn cynnal archwiliad llawn ar ddiwedd y 12 mis.
Fe fydden ni’n gofyn i chi beidio ag addurno’r
eiddo tan ar ôl yr archwiliad 12 mis.
Iawndal
Os nad ydyn ni’n gwneud atgyweiriad rydych chi wedi
sôn amdano, efallai y gallwch chi ennill iawndal am
yr anghyfleustra a achoswyd. Gofynnwch i aelod o staff am
fanylion.
|