logo fha  
Family Housing
ASSOCIATION (WALES) LTD
 
01792 460192
spacer
Atgyweiriadau a Gwelliannau
Gwneud Cais am Dy
Ardal i Staff
Ardal i Gontractwyr

Lawrlwythwch adobe reader
spacer
main fha header graphic

Hafan > Gwasanaethau Tai > Atgywerio Eich Catref > Gwiriad Diogelwch Nwy Am Ddim

Gwiriad Diogelwch Nwy AM DDIM

Mae Cymdeithas Tai Teulu'n cynnal gwiriadau diogelwch nwy AM DDIM ym mhob un o'i eiddo bob blwyddyn, i wneud yn siwr nad yw carbon monocsid yn gollwng o foeleri.

DRWY GYFRAITH, mae rhaid i bob boeler nwy ym mhob un o'n heiddo gael eu gwirio gan beiriannwr CORGI cofrestredig o leiaf unwaith y flwyddyn.

Mae RHAID i chi adael peirianwyr gwasanaethu nwy sy'n gweithio i Gymdeithas Teulu i mewn i'ch cartref i wasanaethu'r boeler nwy.

Beth yw Carbon Monocsid?

Mae'n nwy cyffredin, llechwraidd sy'n wenwynig ac yn gallu lladd. Fe'i cynhyrchir pan fydd cyfarpar tanwydd ffosil fel nwy, olew a thanwydd solet ar waith. Mae rhagor ohono'n cael ei gynhyrchu os nad oes digon o aer/ocsigen o amgylch y cyfarpar, neu os nad yw'r teclyn yn gweithio'n iawn

  • Nid oes ganddo liw
  • Nid oes ganddo arogl
  • Nid oes ganddo flas
  • Mae'n ddistaw, yn anweledig a'n llethol
  • Os ydych chi'n ei anadlu i mewn, mae'n rhwystro'r gwaed rhag sugno'r ocsigen sydd ei angen arno i'ch cadw chi'n fyw.

Pryd ydych chi mewn perygl?

Rydych chi mewn perygl o gael eich gwenwyno gan garbon monocsid:

  • Os nad yw cyfarpar yn gweithio'n iawn oherwydd hylosgiad anghyflawn
  • Os nad oes digon o aer ffres yn yr ystafell
  • Os yw simnai neu ffliw yn cael eu blocio a bo carbon monocsid yn mynd mewn i'ch man byw

Beth yw'r Arwyddion Perygl?

Os ydych chi'n teimlo'n gysglyd, os oes gennych chi gur pen, yn teimlo'n sigledig pan rydych chi'n sefyll i fyny, yn teimlo'n sāl/taflu fyny, neu os oes gennych chi boen yn eich brest, gallwch chi fod yn dioddef o gamau cyntaf gwenwyn carbon monocsid.

Dim ond rhai o'r symptomau yw'r rhain. Gallwch chi hefyd deimlo'n flinedig, dodded o gylchguriadau'r galon, neu gael dolur rhydd a phoenau yn y stumog.

Gallai Carbon Monocsid arwain at farwolaeth neu achosi niwed parhaol i feinwe sy'n llawn ocsigen, fel yr ymennydd neu'r galon. O fod yn agored yn gyson i lefelau cymharol isel o Garbon Monocsid, gallai hyn arwain at effeithiau iechyd sylweddol.

Yn aml, caiff gwenwyn Carbon Monocsid ei gymysgu gyda symptomau ffliw neu annwyd neu effaith byw.

Os oes gennych chi unrhyw rai o'r symptomau yma, trowch eich offer i ffwrdd a gofynnwch am gyngor meddygol.

Beth yw'r Ffynonellau Posib o Garbon Monocsid yn eich Cartref?

  • Boeler
  • Gwresogydd Dwr Nwy
  • Ffwrn Nwy/Hob - Popty
  • Lle tān (pren, glo neu nwy)
  • Troi'r car ymlaen ar fore oer mewn garej atodedig
  • Barbiciw - siarcol/nwy
  • Gwresogydd nwy - Gwresogydd Lleoedd Gwag

Cysylltwch â ni os hoffech chi ragor o wybodaeth

spacer