logo fha  
Family Housing
ASSOCIATION (WALES) LTD
 
01792 460192
spacer
Atgyweiriadau a Gwelliannau
Gwneud Cais am Dy
Ardal i Staff
Ardal i Gontractwyr

Lawrlwythwch adobe reader
spacer
main fha header graphic

Hafan > Esiamplau o Eiddo

Esiamplau o Eiddo

Mae Cymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyf yn darparu ystod o lety i bobl sengl, cwplau, teuluoedd ac i bobl hyn a phobl sydd ag anableddau corfforol, anawsterau dysgu a phroblemau iechyd meddwl.

Mae’r stoc tai yn cynnwys eiddo sydd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ac eiddo sydd wedi cael eu hadnewyddu. (Gweler enghreifftiau isod). Rydyn ni’n darparu fflatiau un a dwy ystafell, byngalos dwy ystafell ag ystod o lety i deuluoedd sydd ag anghenion cyffredinol. Mae ein tai mwyaf yn gallu rhoi llety i deuluoedd o saith, er bod y rhan fwyaf o’n eiddo sydd wedi’u dylunio i deuluoedd yn eiddo dwy a thair ystafell.

Hefyd, rydyn ni’n darparu ystod o lety a gwasanaethau i bobl hyn, sy’n cynnwys byngalos a fflatiau a adeiladwyd yn bwrpasol, tai cysgodol a chynlluniau sy’n darparu gofal ychwanegol i’r bregus.Mae ein timau gwasanaethau tai ac eiddo yn darparu gwasanaethau rheoli a chynnal a chadw arbenigol.

Mae’r timau hyn, ynghyd â’n tîm o ofalwyr, gan gynnwys gofalwyr preswyl ar gyfer ein hystadau mwy, yn gwneud yn siwr bod ein holl denantiaid yn derbyn gwasanaeth dosbarth cyntaf ym mhob agwedd o’n tenantiaethau.

Rhydaman

Byngalo dwy ystafell yn Rhydaman, ble mae garddwr hynod o frwdfrydig yn byw ynddo

  cwmdu

Mae Mile End Close a Cwmdu Close yn Fforestfach yn darparu cymysgedd o fflatiau a llety i deuluoedd sydd ag anghenion cyffredinol

clos caer elms

Clos Caer Elms - ystad yn Llanelli sy’n darparu cymysgedd o fflatiau anghenion arbennig a llety i deuluoedd

  llanelli

Byngalos yng nghanol Llanelli.

Fflatiau anghenion cyffredinol yn Ardal Forwrol Abertawe

Fflatiau anghenion cyffredinol yn Ardal Forwrol Abertawe

  Prosiect Swan Gardens sy’n darparu fflatiau hunangynhaliol i Bobl Hyn Tsieinëeg

Prosiect Swan Gardens sy’n darparu fflatiau hunangynhaliol i Bobl Hyn Tsieinëeg

spacer