logo fha  
Family Housing
ASSOCIATION (WALES) LTD
 
01792 460192
spacer
Atgyweiriadau a Gwelliannau
Gwneud Cais am Dy
Ardal i Staff
Ardal i Gontractwyr

Lawrlwythwch adobe reader
spacer
main fha header graphic

Hafan > Gwasanaethau Tai > Atgywerio Eich Catref > Mwy o Wybodaeth

Torri Mewn a Difrod Troseddol

Os yw rhywun nad ydych chi’n adnabod yn torri mewn i’ch eiddo , neu os yw rhywun yn creu difrod i’ch cartref, gwnewch y canlynol:

  • Soniwch am y digwyddiad wrth yr heddlu a gofynnwch am rif cyfeirnod y drosedd..
  • Os ydych chi’n darganfod fod rhywun wedi torri mewn yn ystod oriau swyddfa, cysylltwch â ni ar unwaith ar 0800 435223
  • Os ydych chi’n darganfod fod rhywun wedi torri mewn pan rydyn ni wedi cau, a’ch bod chi angen cymorth i ddiogelu eich cartref, cysylltwch â’n gwasanaeth argyfwng ar 0800 435223. Fe fydd ein contractwr yn trin atgyweiriadau o’r fath fel blaenoriaeth, a’n gwneud y gwaith mewn dwyawr.

Gwella eich cartref

Os hoffech chi wneud gwelliannau i’ch cartref, fel gosod patio, gosod unedau cegin newydd neu osod cawod, mae rhaid i chi gysylltu â ni yn gyntaf. Fe fyddwn ni’n gofyn i chi roi manylion llawn i ni am beth rydych chi eisiau wneud. Yna, fe fyddwn ni’n ystyried:

  • Materion diogelwch
  • P’un ai a fydd y newidiadau yn effeithio ar werth yr eiddo
  • P’un ai a fydd y gwelliant yn addas ar gyfer tenantiaid yn y dyfodol

Fe fyddwn ni’n ysgrifennu i roi gwybod i chi p’un ai a ydyn ni’n rhoi caniatâd i chi wneud y gwaith. Ni fyddwn ni’n codi eich rhent o ganlyniad i’r gwelliannau. Fe fyddwch chi fodd bynnag, yn gyfrifol am gwblhau unrhyw waith at safon foddhaol sy’n cael ei gymeradwyo gennym ni. Efallai y byddwch chi’n gyfrifol am gynnal a chadw’r gwelliant yn y dyfodol oni bai ein bod ni’n cytuno ar bapur i’w gynnal.

Addasiadau ar gyfer pobl anabl

Os oes gennych chi neu aelod arall o’r teulu anabledd, efallai y gallwch chi gael gwelliannau ac addasiadau wedi’u gwneud i’ch cartref..Os ydych chi angen cawod, lifft grisiau neu reiliau uwchben eich gwely neu eich baddon, neu unrhyw addasiad arall i’ch helpu ch i fyw yn eich cartref, dylech chi ofyn am gyngor. Fe fyddwn ni’n eich helpu chi i drefnu hyn, ac efallai y gallwn ni eich helpu chi i gael grantiau. (Addasiadau (.pdf) )


Lawrlyfr i Denantiaid Cymdeithas Tai Teulu
spacer