logo fha  
Family Housing
ASSOCIATION (WALES) LTD
 
01792 460192
spacer
Atgyweiriadau a Gwelliannau
Gwneud Cais am Dy
Ardal i Staff
Ardal i Gontractwyr

Lawrlwythwch adobe reader
spacer
main fha header graphic

Hafan > Gwasanaethau Tai > Gwneud cwyn

Gwneud Cwyn

Nod ein polisi cwynion yw delio gydag unrhyw bryderon, a’n helpu ni i wella ein gwasanaethau pan fo gwendidau.

Rydym ni’n ceisio delio gyda phob cwyn yn deg, yn amhleidiol, yn gyfrinachol ac ar unwaith.

Caiff tenantiaid sy’n byw mewn tai â chymorth eu gwahodd i geisio datrys eu pryder drwy siarad yn uniongyrchol gyda’r tîm cymorth cyn defnyddio’r weithdrefn ffurfiol.

A fyddech gystal â chyfeirio eich cwyn at: complaints@fha-wales.com

Beth yw cwyn?

Cwyn yw

Unrhyw bryder a fynegir ar lafar neu ar bapur ynghylch y gwasanaethau rydyn ni’n darparu fel Cymdeithas. Er enghraifft:

  • Anfodlonrwydd gyda’r gwasanaeth cynnal a chadw
  • Ymddygiad ein contractwyr
  • Methiant ar ran ein staff i ymateb i sefyllfa
  • Ystyried bod annhegwch yn y ffordd y mae’r person sy’n gwneud cais am dy neu gyflogaeth wedi cael ei drin/thrin.
  • Niwed sy’n digwydd o ganlyniad i weithrediadau’r Gymdeithas.

Beth sydd ddim yn gwyn?

  • Pryder am ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gymdogion - dylech chi gysylltu â’n swyddogion a fydd yn rhoi cyngor pellach i chi.
  • Atgyweiriad sydd heb gael ei adrodd _ cysylltwch â’n Hadran Cynnal a Chadw ar 0800 435 223.
  • Unrhyw anfodlonrwydd gyda chyfleustodau a gwasanaethau eraill sydd tu hwnt i’n rheolaeth. E.e. Cyflenwad dwr, problemau nwy neu drydan _ Cysylltwch â’r cyflenwr .
  • Dadl rhwng cymdogion mewn ty a rennir _ Soniwch wrth aelod o staff a fydd yn rhoi cyngor i chi.

Sut i wneud cwyn

  • Gallwch chi wneud eich cwyn ar lafar i unrhyw aelod o staff. Fe fydd ef/hi yn gwneud nodyn o’r cwyn a’n ei anfon ymlaen i Swyddfa’r Prif Weithredwr. Efallai y bydd rhywun yn cysylltu gyda chi ynghylch natur y cwyn, neu efallai y bydd yn rhaid i chi roi’r cwyn ar bapur cyn y bydd hi’n bosib i ni weithredu.
  • Gallwch chi ysgrifennu at y Gymdeithas yn egluro pam eich bod chi’n anfodlon.
  • Gallwch chi ofyn i gynrychiolydd i gysylltu â ni ar eich rhan. Yn yr achos yma, fe fyddwn ni’n ysgrifennu atoch chi’n gofyn am eich caniatâd i archwilio cyn i ni fedru gweithredu.

Beth fyddwn ni’n wneud

Os yw eich cwyn yn un ar lafar, fe fydd yr aelod o staff sy’n ei dderbyn yn gwneud nodyn ac yn cynghori Swyddfa’r Prif Weithredwr, a fydd yn ei gofnodi ar gofrestr ganolig.

Efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi am fwy o wybodaeth cyn gweithredu.Fe fydd cwyn ar bapur (neu drwy e-bost neu drwy ffacs), yn cael ei basio’n syth i Swyddfa’r Prif Weithredwr ble y bydd yn cael ei gofnodi ar gofrestr ganolig.

Fe fydd pob cwyn, ym mha bynnag ffordd y’u derbyniwyd, yn cael eu cydnabod drwy lythyr o fewn pum diwrnod gwaith, sy’n amgáu copi o’r datganiad yma.

Ar ôl ugain diwrnod gwaith o dderbyn y cwyn, fe fydd y swyddog sy’n gyfrifol am archwilio’r gwyn yn darparu:

  • ·Manylion o’r ymchwiliad
  • Y penderfyniad ynghylch p’un ai a fydd y cwyn yn cael ei chynnal ai beidio
  • Manylion o ateb y Gymdeithas i’r broblem
  • Yr opsiynau sydd ar gael i chi os fyddech chi’n anghytuno gyda’r weithred a gymerwyd

Eich hawl i apelio

  1. Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ymateb rydych chi’n derbyn, i ddechrau, gallwch chi apelio i’r cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am y gwasanaeth y mae’r gwyn yn berthnasol iddo. Dylech chi wneud hyn o fewn 10 diwrnod gwaith. Fe fydd y cyfarwyddwr yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith, a’n eich cynghori chi o’ch hawl i apelio ymhellach os byddech chi’n parhau i fod yn anfodlon.
  2. Gallwch chi gyfeirio eich ail apêl at yr Is-bwyllgor Archwilio yn swyddfeydd y Gymdeithas o fewn 10 diwrnod gwaith. Fe fydd yr Is-bwyllgor Archwilio yn ymateb o fewn 25 diwrnod gwaith o dderbyn yr apêl.
  3. Os fydd y gwyn yn parhau i fod heb ei datrys, ac nad ydych chi’n hapus am hyn, gallech chi gysylltu â sefydliad allanol perthnasol am gymorth. Er enghraifft, Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr Ombwdsman, Gofal a Thrwsio Cymru (ar gyfer Gofal a Thrwsio yn unig ) neu’r Awdurdod Lleol .Fe fyddwn ni’n rhoi cyfeiriadau'r sefydliadau hyn i chi pe gofynnir.

Pe byddai’r gwyn yn dod yn rhan o ymchwiliad allanol, e.e. yr Heddlu, fe fydd y graddau amser yn amrywio drwy gytundeb.

Dylid cyfeirio pob cwyn at:

Y Prif Weithredwr
Cymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyf
43 Walter Road
Abertawe
SA1 5PN
Rhif ffôn 01792 460192
Ffacs 01792 473726

Mae gan y Gymdeithas Statws Elusennol.

Gallai tenantiaid sy’n byw mewn eiddo sy’n disgyn o dan Reoliadau Gofal Cartref anfon cwyn yn uniongyrchol at:

Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru
Swyddfa Ranbarthol Gorllewin Cymru
Uned C, Phase III
Pentref Busnes Tawe
Parc Anturiaeth Abertawe
Abertawe SA7 9LA
Rhif ffôn 01792 310420

Fe fydd pob cwyn o dan y categori yma’n cael eu harchwilio, a bydd crynodeb blynyddol yn cael ei anfon pe gofynnir i Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru. Fe fydd y cofnod diweddaraf o gwynion yn cael ei storio’n ddiogel.


spacer