|
Hafan >
Datganiad Cenhadaeth
'Rydyn ni'n darparu tai a gwasanaethau o ansawdd uchel, a'n rhoi cymorth a help i bobl pan fo angen.'
Nodau ac Amcanion Corfforaethol
- Darparu gwasanaeth tai o ansawdd uchel, sy’n sensitif
i anghenion ein cwsmeriaid.
- Rhoi help, gofal a chymorth i’r rhai hynny sydd
eu hangen, i fyw yn annibynnol.
- Datblygu tai o ansawdd uchel, sy’n sensitif i anghenion
y cymunedau yr ydym ni’n gweithio ynddynt.
- Gwneud yn siwr fod ein holl weithgareddau busnes yn gynaliadwy
a’n sensitif i’r amgylchedd.
- Gweithio mewn partneriaeth gydag asiantau eraill er budd
y gymuned.
Gwerth Gorau
Rydyn ni wedi’n hymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth
gorau posib. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy adolygu ein
holl weithgareddau yn rheolaidd gyda’n tenantiaid a’n
cwsmeriaid.
Cyfleoedd Cyfartal
Rydyn ni’n hollol ymrwymedig i egwyddorion cyfleoedd
cyfartal ym mhob agwedd o’n gwaith.
Er mwyn adeiladu ar ei gwaith cydraddoldeb a chynhwysiant, mae Tai Teulu wedi datblygu ei Cynllun Cydraddoldeb Sengl cyntaf erioed, fydd yn ceisio dod â’r ffyrdd y mae’n hyrwyddo cyfleoedd cyfartal at ei gilydd a’u rhoi mewn un ddogfen sengl. Mae’r cynllun yn dangos ymrwymiad y gymdeithas i osod hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd pob rhan o’i gwaith, a bydd yn cwrdd â’r gofynion ar gyfer:
- Hil
- Anabledd
- Cydraddoldeb rhywiol (yn cynnwys newid rhyw)
- Oedran
- Crefydd a chred (yn cynnwys digrefydd)
- Cyfeiriadedd rhywiol
Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Sengl yn para am y cyfnod tair blynedd o fis Hydref 2010. Mae’n nodi sut y byddwn yn cwrdd â’n cyfrifoldebau cyfreithiol. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys ein hamcanion cydraddoldeb a’r gweithredoedd rydym yn bwriadu eu cymryd i’w dosbarthu nhw.
Hygyrchedd y We
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n datblygu’r safle i
gydymffurfio â safonau Hygyrchedd y We. Ar ôl
iddo gael ei gwblhau, fe fydd datganiad hygyrchedd llawn ar
gael. Nawr, gallwch chi gyfieithu unrhyw ddarn o wybodaeth
sydd ar y wefan hon drwy glicio ar y ddolen gwasanaethau
cyfieithu ar y we.
Dilynwch y dolenni o dan bob pennawd ar gyfer gwefannau Babel
Fish a Sakhr. Nawr, gallwch chi gyfieithu unrhyw ddarn o wybodaeth
ar y wefan hon drwy glicio ar y ddolen gwasanaethau cyfieithu
ar y we.
Cyfranogiad Tenantiaid
Cliciwch yma am ragor o fanylion ynghylch:
- Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol
- Opsiynau ar gyfer Cyfranogiad Tenantiaid
- Panel Tenantiaid
|