| Hafan > Amdanom Ni
BETH YW CYFRANOGIAD TENANTIAID?
Cyfathrebu yw pwrpas Cyfranogiad Tenantiaid - rhannu gwybodaeth a syniadau. Mae’n rhoi mwy o gyfle i denantiaid i leisio eu barn, ac i gymryd mwy o ran yng ngweithgareddau a busnes eu landlordiaid.
Mae Cymdeithas Tai Teulu wedi’i ymrwymo i gynnwys tenantiaid, ac mae wedi dod at ei gilydd gyda’r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS Cymru) i ddatblygu ei Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol. Cliciwch yma i weld y ddogfen strategol.
Mae Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid wedi cael ei apwyntio/hapwyntio i’r Gymdeithas i ddatblygu Cyfranogiad Tenantiaid drwy gydol Cymdeithas Tai Teulu, ac i weithio ochr yn ochr â staff a thenantiaid i wneud yn siwr bod tenantiaid yn cael lleisio’u barn am y gwasanaethau y mae’r Gymdeithas yn darparu i’w rhanddeiliaid.
Yn nhymor y Gwanwyn 2008, fe ddyfarnwyd Grant Grymuso Tenantiaid i Banel y Tenantiaid i sefydlu Grwp Ffocws ar Wasanaethau Eiddo i gael tenantiaid i gymryd rhan mewn cynllunio, arolygu a dosbarthu gwasanaethau. O adeiladu ar hyn, mae grwp Rheoli Tai wedi cael ei sefydlu hefyd erbyn hyn.
OPSIYNAU AR GYFER CYFRANOGIAD TENANTIAID
Gallwch chi gymryd rhan yn hyn drwy:-
- Ddod yn aelod o’r Panel Tenantiaid
- Ymuno â Grwp Ffocws
- Ymuno â chymdeithas preswylwyr neu ffurfio un eich hun
- Gyflwyno erthygl neu lun ar gyfer y Cylchlythyr i Denantiaid
- Gystadlu yn y Cystadlaethau Gardd neu Golff Blynyddol
- Lenwi’r arolygon a’r holiaduron rydym ni’n anfon atoch chi
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn unrhyw rai o’r uchod, neu os hoffech chi wybod mwy, cysylltwch â’r Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid:-
PANEL TENANTIAID
Mae Panel Tenantiaid Cymdeithas Tai Teulu wedi bod yn rhedeg am tua 12 mlynedd, a hwn oedd y Panel Tenantiaid cyntaf yn y wlad. Mae gan y panel 25 aelod, sy’n cwrdd gyda Swyddogion y Gymdeithas pob chwe wythnos mewn amryw o fannau mewn lleoliadau gwahanol.
Dim ond tenantiaid yn unig sy’n rhan o’r Panel, sy’n trafod materion sy’n berthnasol i’r holl denantiaid, ac mae wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno sawl mesur, gan gynnwys Cardiau All Pay, Tenantiaethau Rhagarweiniol a Thocynnau Addurno. Yn digwydd bod, fe lansiodd B&Q y tocynnau yn genedlaethol i landlordiaid ar ôl i’r Panel weithio gyda nhw ar y cynllun.
Mae aelodau o’r Panel yn derbyn hyfforddiant wedi’i drefnu ar sawl pwnc, ac maen nhw’n mynychu cynadleddau i denantiaid, sy’n cynnwys Ffederasiwn Tenantiaid Cymru a chynhadledd flynyddol Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid yn Llandrindod.
Mae siaradwyr gwadd yn mynychu cyfarfodydd y panel yn rheolaidd, ac mae aelodau’n cyfathrebu gyda nhw, a’n cymryd rhan mewn trafodaethau.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw swyddi gwag ar y Panel. Fodd bynnag, mae croeso i denantiaid fynychu cyfarfodydd fel arsyllwyr.
Os oes diddordeb gennych chi mewn dod yn aelod o’r panel yn y dyfodol, mewn mynychu cyfarfod fel gwestai, neu os hoffech chi gopi o’r cofnodion, cysylltwch â’r Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid:-
“Fe gefais groeso cynnes yn y cyfarfod, ac fe ddes yn ymwybodol yn fuan iawn o ymroddiad aelodau o’r panel i wneud yn siwr fod tenantiaid yn cael lleisio’u barn am y gwasanaethau y mae Cymdeithas Tai Teulu’n eu darparu.”
Tenant Exchange Buildings, Abertawe, yn sylwebu ar ei gyfarfod cyntaf o’r Panel Tenantiaid.
|