|
Hafan > Gwneud Cais am Dy > Prosiectau Adeila Du Newydd > Extra Care Scheme (Cymraeg)
PROSIECT TAI GOFAL YCHWANEGOL
Steil o fyw newydd i bobl dros 55 mlwydd oed

Mae Tai Teulu, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, yn creu datblygiad tai newydd cyffrous gyda steil ac arloesedd o’r 21ain. Fe fydd y cynllun, sydd i fod i gael ei gwblhau yn 2011, yn creu steil o fyw newydd i bobl dros 55 mlwydd oed.
Un sy’n -
- Darparu gosodiad sy’n galluogi pobl i ddatblygu cymuned eu hunain
- Creu synnwyr o le
- Creu synnwyr o berthyn a pherchnogaeth
- Annog cyswllt bywiog gyda’r gymuned ehangach
Dyluniad y Cynllun

Mae dyluniad y cynllun yn cynnwys
- Defnyddio golau dydd i’r eithaf mewn mannau lle bydd pobl yn symud o gwmpas
- Gerddi deniadol wedi’u tirlunio i eistedd ac ymlacio ynddynt
- Mynediad i gadeiriau olwyn i bob ardal, a lifftiau i bob llawr
- Uwch dechnoleg sy’n darparu mynediad i gymorth argyfwng 24 awr y dydd
- Ystod o wasanaethau hyblyg ar-safle i gwrdd ag anghenion amrywiol a newidiol
- Tîm Gofal & Chymorth ar-safle
Y Fflatiau

48 fflat hunangynhwysol un neu ddwy ystafell
- Wedi’u dylunio’n unigol i wneud defnydd o olau dydd a golygfeydd.
- Geginau Gosod
- Ystafell Ymolchi Fawr
- Gwres dan y llawr
- Hollol hygyrch i gadeiriau olwyn
- System larwm intercom
- Lefel uchel o ynysu
Y Cyfleusterau

Bydd gan y cynllun ystod o gyfleusterau sy’n darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, cymdeithasol a chymunedol
- Ystafell gyfarfod gymunedol
- Bistro
- Salon Gwallt
- Siop fechan
- Ystafell Grefftau a Hobïau
- Llyfrgell/ Ystafell Gyfrifiadur
- Ystafell Therapi
- Ystafell i Westeion
- Ardaloedd distaw i gael sgwrs
Gofal a Chymorth
Mae gan Gymdeithas Tai Teulu dros 30 mlynedd o brofiad arbenigol o reoli tai a darparu cymorth. Fe fydd ein Rheolwr Cynllun yn gyfrifol am reoli’r cynllun, fydd yn cynnwys:-
- Cydlynu Gwasanaethau Gofal a Chymorth
- Creu cysylltiadau gyda’r gymuned yng Ngheredigion a thu hwnt
- Cynorthwyo tenantiaid i ddefnyddio’r cyfleusterau i’r eithaf
- Annog tenantiaid i gymryd rhan lawn yn y broses o reoli’r cynllun
Part of the community - not a community apart

Ref: Click here to view Family Housing Association's Hazel Court project (This opens a new page) |